Lleoliad y cyfarfod:
Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
13 Ionawr 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn drwy gynhadledd fideo.
Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau electronig.
Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
3 Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
(30 munud)
4 Cwestiynau Amserol
(0 munud)
Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.
5 Datganiadau 90 Eiliad
(5 munud)
6 Dadl ar ddeisebau sy'n ymwneud â mynediad at gyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod cyfyngiadau symud
(60 munud)
NDM7543 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r deisebau canlynol ynglŷn â mynediad at gyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod cyfyngiadau symud:
a) Deiseb ‘P-05-1053 Cadwch gampfeydd ar agor ac ystyriwch eu bod nhw mor bwysig â siopau, os cyflwynir cyfyngiadau symud cenedlaethol unwaith yn rhagor’ a gasglodd 20,616 o lofnodion;
b) Deiseb ‘P-05-1063 Dylid agor cyrsiau golff gan eu bod yn chwarae rôl hanfodol o ran gwella iechyd corfforol ac iechyd meddyliol’ a gasglodd 6,317 o lofnodion; ac
c) Deiseb ‘P-05-1074 Cynyddwch nifer y bobl sy'n cael bod mewn mannau awyr agored fel y gall pob tîm yng Nghymru ailddechrau chwarae pêl-droed’ a gasglodd 5,330 o lofnodion.
7 Dadl Grŵp Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio – Gohiriwyd
(0 munud)
8 Cyfnod pleidleisio
9 Dadl Fer
(30 munud)
NDM7532 Mark Reckless (Dwyrain De Cymru)
Datblygiadau cyfansoddiadol yng Nghymru.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 19 Ionawr 2021